#

Y Pwyllgor Deisebau | 9 Gorffennaf 2019
 Petitions Committee | 9 July 2019
 
 
 ,Penodi Comisiynydd Anabledd Dysgu i Gymru 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-892

Teitl y ddeiseb: Penodi Comisiynydd Anabledd Dysgu i Gymru.

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i benodi Comisiynydd Anabledd Dysgu i Gymru. Mae’n rhaid i’r person hwnnw fod ag anabledd dysgu.

Mae mwy o adroddiadau o gam-drin pobl ag anabledd dysgu yn ymddangos yn Lloegr eto. Mae ymchwil yn dangos hefyd bod pobl ag anabledd dysgu yn cael gofal iechyd anghyfartal ac yn marw hyd at 20 mlynedd yn gynharach nag eraill. Mae'n 50 mlynedd ers i adroddiad Ysbyty Trelái ddangos cam-drin gan arwain at gau'r sefydliadau hyn. Fel y sefydliad a sefydlwyd gan bobl sy'n gadael Trelái, credwn ei bod hi’n bryd i ni gael rhywun i hyrwyddo ein hawliau i ni yng Nghymru.

Cefndir

Cyflwynwyd y ddeiseb gan Cardiff People First, sef sefydliad hunaneiriolaeth sy'n cael ei redeg gan ac ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Mae nifer o grwpiau Pobl yn Gyntaf ledled Cymru ac mewn rhannau eraill o’r DU. 

Mae'r deisebwyr yn galw am benodi Comisiynydd Anabledd Dysgu i Gymru ac yn cyfeirio at adroddiadau diweddar mewn rhaglen Panorama ar y BBC am gam-drin preswylwyr yn Whorlton Hall, ysbyty anableddau dysgu yn Durham. Mae Syr Stephen Bubb, awdur dau adroddiad ar gam-drin pobl ag anableddau dysgu yn Winterbourne View, Swydd Gaerloyw yn 2011 hefyd wedi annog Llywodraeth y DU i sefydlu swyddfa Comisiynydd Pobl ag Anabledd Dysgu.    

Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru

Yn ei hymateb i'r ddeiseb mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y gwaith a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys adolygiad 2017 o wasanaethau anableddau dysgu a datblygu Rhaglen Gwella Bywydau.  Mae'r rhaglen, a lansiwyd yn 2018, yn canolbwyntio ar wella gwasanaethau mewn pum maes allweddol:

§  Y Blynyddoedd Cynnar - lleihau profiadau niweidiol plentyndod a gwella gallu rhieni ag anabledd dysgu i fagu eu plant

§  Tai - datblygu modelau newydd o dai â chymorth, gan helpu pobl i fyw yn agosach at eu ffrindiau a'u teuluoedd

§  Gofal cymdeithasol - sicrhau bod pawb sydd ei angen â mynediad at ofal a chymorth o ansawdd da sy'n canolbwyntio ar eu hanghenion

§  Iechyd - addasiadau rhesymol i wasanaethau prif ffrwd a mynediad at wasanaethau arbenigol pan fo angen. Er mwyn rhoi sylw i anghydraddoldebau iechyd, sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn derbyn yr archwiliadau iechyd blynyddol y mae ganddynt hawl i’w cael a byrddau iechyd i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion pobl ag anableddau dysgu yn yr ysbyty

§  Addysg, sgiliau a chyflogaeth - helpu pobl ifanc i wneud y mwyaf o'u potensial, a phan fyddant yn oedolion, sicrhau eu bod yn cael y cymorth cywir er mwyn caniatáu iddynt fyw bywydau llwyddiannus, drwy ddarparu cyngor ar yrfaoedd wedi ei dargedu a sicrhau bod mwy o bobl ag anabledd dysgu yn cael swyddi cyflogedig.

Mae Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anableddau Dysgu yn helpu i roi’r rhaglen ar waith, ac ymysg yr aelodau mae pobl ag anableddau dysgu, teuluoedd a gofalwyr, gweithwyr proffesiynol allweddol o awdurdodau lleol, y sector iechyd ac elusennau.  Caiff y Grŵp ei gadeirio gan Gwenda Thomas (cyn AC a chyn Ddirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol), a’i gyd-gadeirio gan Sophie Hinksman, cynrychiolydd Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan.

Anghydraddoldebau iechyd

Mae'r deisebwyr yn cyfeirio at anghydraddoldebau iechyd y mae pobl ag anableddau dysgu yn eu dioddef, mater sydd wedi cael ei gydnabod ers peth amser.  Mae crynodeb o dystiolaeth y Confidential Inquiry into premature deaths of people with learning disabilities (CIPOLD)  ar wefan Mencap.  Aeth yr ymchwiliad ati i ymchwilio i drefn y digwyddiadau a arweiniodd at bob marwolaeth hysbys pobl ag anableddau dysgu (4 oed a hŷn) dros gyfnod o 2 flynedd mewn 5 ardal Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol yn Ne-orllewin Lloegr.  Cyhoeddwyd yr adroddiad yn 2013.

Poor quality healthcare causes health inequalities and avoidable deaths

Premature deaths

The Confidential Inquiry into premature deaths of people with learning disabilities (CIPOLD) found an average age of death of 65 for men and 63 for women in a sample of 247 people with a learning disability in the UK. This is significantly less than the average age of death of 78 for men and 83 for women in the general population (Heslop et al. 2013). In other words, on average women with a learning disability died 20 years sooner than women in the general population, and men with a learning disability died 13 years sooner than men in the general population.

CIPOLD also reported the average age of death for different levels of impairment:

•          67.5 for people with a mild learning disability

•          64 for people with a moderate learning disability

•          59 for people with a severe learning disability

•          46 for people with profound and multiple learning disabilities

Poor quality healthcare causes avoidable deaths

The Confidential Inquiry into premature deaths of people with a learning disability also found that 38% of people with a learning disability died from an avoidable cause, compared to 9% in a comparison population of people without a learning disability (Heslop et al. 2013, p. 92). Note: Mencap uses the term avoidable death for deaths that could have been avoided by the provision of good quality healthcare.

Allerton and Emerson (2012) analysed large-scale data to investigate the access to good quality healthcare for British adults with a chronic health condition or impairment. 309 people in the sample had a learning disability. The research found:

§  40% of people with a learning disability reported a difficulty using health services, compared to 18% of people with no chronic health condition or impairment

§  12% of people with a learning disability reported a lot of difficulty using health care services, compared to just 3% of people with no chronic health condition or impairment.

Canfu adroddiad CIPOLD hefyd fod llai o bobl ag anableddau dysgu yn manteisio ar fentrau hybu iechyd (e.e. sgrinio canser). 

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru wiriadau iechyd blynyddol yn 2006 i bobl ag anableddau dysgu.  Mae'r gwiriadau iechyd ar gael i bobl dros 16 oed.  Fodd bynnag, canfu adroddiad Anabledd Dysgu - Rhaglen Gwella Bywydau fod profiad unigolion o gael mynediad at y gwiriad iechyd, a mynediad at ofal iechyd eilaidd yn amrywio ledled Cymru (e.e. gweler t.11).  Nododd adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol A yw Cymru'n Decach?  yn 2018 nad yw’r “mwyafrif o bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru yn cael gwiriad iechyd blynyddol”, a thynnwyd sylw at yr anawsterau y mae pobl anabl yn eu hwynebu yn gyffredinol wrth geisio cael mynediad at ofal iechyd.

Llety

Mae adroddiad Anabledd Dysgu - Rhaglen Gwella Bywydau hefyd yn amlygu'r broblem o leoli pobl y tu allan i Gymru oherwydd diffyg llety a gwasanaethau yng Nghymru (gweler t.3).  Canfu Arolwg gan Arolygiaeth Gofal Cymru/Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o awdurdodau lleol yn 2015, fod 547 o bobl wedi'u lleoli y tu allan i'r sir, 172 y tu allan i’r rhanbarth a 142 y tu allan i'r wlad (gweler t.17).

Mae Datganiad Ystadegol gan Lywodraeth Cymru yn dangos, ar 31 Mawrth 2018, bod 117 o bobl ag anableddau dysgu yn byw mewn ysbytai ac unedau yng Nghymru, nifer tebyg i'r naw mlynedd blaenorol. 

Yn ddiweddar, rhoddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething AC, yr ymateb canlynol i Gwestiwn Ysgrifenedig gan Janet Finch Saunders AC am bobl ag anableddau dysgu sy'n cael eu lleoli mewn ysbytai y tu allan i Gymru:

(WAQ78410) 

Wedi’i gyflwyno ar 13/06/2019

Pa darged y mae'r Gweinidog wedi'i osod ar gyfer lleihau nifer y cleifion iechyd meddwl ac anableddau dysgu a leolir mewn ysbytai y tu allan i Gymru, a pham mai dim ond 20 o'r unedau a gymeradwyir sydd yng Nghymru?

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol 

Wedi'i ateb ar 18/06/2019

Whilst there is no target, we are committed to ensuring people can access mental health and learning disabilities services closer to home and the number of out of Wales placements, via the National Collaborative Framework Agreement for Mental Health and Learning disabilities (the Framework), continue to reduce.

For those patients placed outside of Wales, we continue to have robust arrangements in place to monitor the quality and safety of specialist inpatient settings.

The Framework aims to enable all parts of NHS Wales to procure and performance-manage services under pre-agreed standards, costs and the terms and conditions of a contract in a compliant manner. It is the responsibility of providers to apply to be included on the Framework and the NHS Collaborative Commissioning Unit has confirmed that that all independent hospitals in Wales are included on the Framework.

The Wales CAMHS and Eating Disorders Network recently established a task and finish group to undertake a clinically informed option appraisal to consider the provision and capacity of specialist tier 4, low secure and learning disability inpatient care currently provided by out of area placements for children and young people. This work will inform the review of the existing Framework prior to new arrangements being introduced on 1 April 2020.

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.